Nod Cyfranogiad ac Ymgysylltu yw adeiladu ar raglenni presennol Rubicon Dance er mwyn cynnwys dawns ledled dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd sy’n cyffroi, yn ysbrydoli ac yn herio. Rydym eisiau i gynifer o bobl ag sy’n bosibl brofi’r buddion y gall dawns eu creu.
Felly, ar ôl i chi gael cipolwg ar ein gwefan, beth am gysylltu â ni fel y gallwn gydweithio i wneud Rubicon Dance yn lle gwych i dreulio awr neu fwy. Does dim rhaid eich bod wedi dawnsio o'r blaen, rydym yn gobeithio bod gennym rywbeth i bawb… ac os nad oes, byddwn yn gwrando ar yr hyn rydych chi ei eisiau ac yn ceisio ei gynnwys yn ein rhaglen neu…. eich cyfeirio at rywle lle gwyddom ei fod ar gael!
Ar hyn o bryd mae Rubicon yn darparu rhaglen cyfranogiad eang a chynhwysfawr gan gynnwys:
- Dosbarthiadau mewn 13 ysgol gynradd yng Nghaerdydd
- Dosbarthiadau mewn 9 ysgol gynradd yng Nghasnewydd
- 4 dosbarth i bobl anabl yng Nghaerdydd gan gynnwys i bobl y mae angen
- Dosbarthiadau dawns mewn gofal iechyd yng Nghaerdydd - Yn Ysbyty Plant Cymru Arch Noah mae Rubicon Dance yn gweithio ar wardiau oncoleg, ffibrosis systig, llawdriniaeth gyffredinol, cleifion tymor byr a hirdymor. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â ffisiotherapyddion ac arbenigwyr chwarae
- Dosbarthiadau dawns mewn gofal iechyd yng Nghasnewydd sy’n cael eu darparu yn Sefydliad Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd, Pont-y-pŵl ac Ystrad Mynach
- 3 dosbarth i’r henoed yng Nghaerdydd
- 4 dosbarth dawns i bobl hŷn na 50 oed yng Nghaerdydd
- 3 dosbarth dawns i bobl hŷn na 50 oed yng Nghasnewydd
- 5 dosbarth dawns y Cyfnod Sylfaen yng Nghaerdydd gan gynnwys Canolfan Plant Integredig Trelái / Caerau lle rydym yn darparu dwy sesiwn gofal dydd ac un sesiwn oedolion / plant bach bob wythnos
- 2 ddosbarth dawns sesiwn oedolion / plant bach – Casnewydd