"“Heblaw am Rubicon fyddwn i byth wedi cael y cyfle i ddawnsio a chael gradd.”"
Rydym yn rhoi pwys ar iechyd a lles, ar sicrhau’r disgwyliadau, cyfle a chyflawniad mwyaf posibl gan ysbrydoli unigolion i gyflawni eu potensial llawn.
Mae’r cwrs yn gweithio i ennyn parch i’r dysgwyr eu hunain, eu cydweithwyr a’r staff, ac i gynnal a choleddu ethos gweithio’r ganolfan gymunedol broffesiynol hon. Daw'r dysgwyr a dderbynnir ar y cwrs yn rhan o fywyd beunyddiol Rubicon, yn y ganolfan ac fel rhan o'r rhaglen estyn allan, yn ogystal â’u cynllun datblygu eu hunain sy’n cael ei deilwra’n benodol iddynt.Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio’n unigryw gan ganolbwyntio’n gadarn ar ddarpariaeth ymarferol sy’n hybu a gwella ymwybyddiaeth gorfforol, gallu technegol a sgiliau creadigol. Mae Rubicon yn darparu cymorth ac adnoddau ychwanegol trwy sicrhau mynediad di-dâl ac agored i bob dysgwr fynd i ddosbarthiadau bob wythnos, fel rhan o raglen y ganolfan, ac mewn ystod o arddulliau amrywiol. Mae yna gyfle i gael rhagor o brofiad trwy gyfrannu at waith addysgol a chymunedol Rubicon ac i gynorthwyo â’r rhaglen datblygu. Gallwch hefyd gymryd rhan yn y cynllun gwirfoddoli, sy’n hanfodol i gefnogi datblygiad sefydliad elusennol sy’n gweithio yng nghanol y gymuned.Os hoffech gael mwy o wybodaeth gofynnwch am brosbectws trwy gysylltu â paul@rubicondance.co.uk