Work with Rubicon Dance: Outreach & Engagement Coordinator / Gweithio gyda Rubicon: Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu

This is an exciting opportunity to play a pivotal role in the future of our organisation and oversee the successful implementation of our exciting community programme. / Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog yn nyfodol ein sefydliad ac i oruchwylio gweithredu llwyddiannus ein rhaglen gymunedol gyffrous.

Job Title: Outreach & Engagement Coordinator

Full-Time

Based in Cardiff

Salary: £28,000 per annum

This is an exciting opportunity to play a pivotal role in the future of our organisation and oversee the successful implementation of our exciting community programme. 

The Outreach & Engagement Coordinator is responsible for planning and implementing Rubicon’s community participation programs to ensure an excellent standard of activities are provided within the building and in external venues, and to increase the organisation’s visibility within the surrounding area. 

How to Apply: To apply please send a CV and a covering letter to simon@rubicondance.co.uk. 

Closing date: 12 February 2025

Interviews: week commencing 24 February 2025

Your covering letter should explain why you think you are suitable for the job and demonstrate your experience and skills according to the Personal Specification in the Job Description section. You may submit this in written format, by video or sound file, or any other manner that is accessible to you.

Written letters should be no more than two pages.
Video/audio applications should be no more than 10 minutes.
If you would like to apply in another format, please get in touch.

Rubicon Dance is an Equal Opportunities employer and committed to improving its diversity to reflect the communities it serves. We welcome applicants from all backgrounds and particularly encourage individuals with diverse perspectives and experiences to apply.

DOWNLOAD APPLICATION PACK & JOB DESCRIPTION

------------------------------------------------------------------------------

Teitl Swydd: Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu

Llawn Amser

Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd

Cyflog: £28,000 y flwyddyn

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog yn nyfodol ein sefydliad ac i oruchwylio gweithredu llwyddiannus ein rhaglen gymunedol gyffrous.

Mae’r Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu yn gyfrifol am gynllunio a rhoi ar waith rhaglenni cyfranogi cymunedol Rubicon i sicrhau bod safon ardderchog o weithgareddau yn cael eu darparu o fewn yr adeilad ac mewn lleoliadau allanol, ac i gynyddu amlygrwydd y sefydliad o fewn yr ardal gyfagos.  

Sut i Wneud Cais: I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cais at simon@rubicondance.co.uk. 

Dyddiad cau: 12 Chwefror 2025

Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 24 Chwefror 2025

Yn eich llythyr cais dylech esbonio pam rydych yn meddwl eich bod yn addas ar gyfer y swydd a dangos eich profiad a sgiliau yn ôl Manyleb y Person yn adran Disgrifiad y Swydd. Gallwch ei gyflwyno’n ysgrifenedig, mewn fideo neu ffeil sain, neu unrhyw fodd arall sy’n hygyrch i chi.

Ni ddylai llythyrau ysgrifenedig fod mwy na dwy dudalen.
Ni ddylai ceisiadau fideo/sain fod mwy na 10 munud.
Os hoffech wneud cais mewn ffurf arall, cysylltwch â ni.

Mae Rubicon Dance yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.  Byddem yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac yn enwedig yn annog unigolion gyda phrofiadau a safbwyntiau amrywiol i wneud cais. 

PECYN CAIS AM SWYDD A DISGRIFIAD SWYDD 

Share this page